Mae JOBSENSE wedi cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop
i helpu pobl 25 oed neu hŷn, sydd â nam ar eu golwg a/neu eu clyw, i ddod o hyd i waith.
Bydd cynghorydd profiadol yn eich helpu ar eich taith.
Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr sy'n cynnig profiad gwaith neu cyfleoedd gwirfoddoli.
Gallwn eich helpu i ennill cymhwyster neu dystysgrif sy'n berthnasol i waith.
Gallwn roi gwybodaeth i chi am dechnoleg a all eich helpu yn y gweithle.
Helpu Cyflogwyr.
Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr i sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth a chymorth defnyddiol fel eu bod yn gallu recriwtio pobl â nam ar eu clyw a/neu olwg i'w sefydliadau mewn ffordd hygyrch a chynaliadwy.
Gallwn ddarparu cyngor ar raglenni cymorth perthnasol, megis Mynediad at Waith - rhaglen y llywodraeth sy'n cefnogi pobl anabl i ddechrau gweithio neu aros mewn gwaith.
Rydym yn gweithio'n uniongyrchol gyda chyflogwyr i ddod o hyd i swyddi gwag addas ac yna'n darparu cymorth i ddechrau cyflogaeth.
Cefnogir y prosiect gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. and will be delivered across West Wales & the Valleys,
Ein Partneriaid.
Mae Jobsense GCC yn bartneriaeth rhwng
ELITE Asiantaeth Cyflogaeth â Chymorth;
COS Centre of Sign, Sight and Sound;
MITB Sefydliad y Deillion Merthyr Tudful;
Agoriad Cyf.
Helpu pobl.
Drwy ddefnyddio cynghorwyr cyflogaeth arbenigol, rydym yn gallu cefnogi pobl â nam ar eu golwg a/neu eu clyw, drwy amrywiaeth o ymyriadau wedi’u teilwra i anghenion ac amgylchiadau’r unigolyn.
Gallwn asesu galluoedd, sgiliau, diddordebau a nodau unigol, helpu i adnabod cyfleoedd dysgu a hyfforddi, darparu cymorth i oresgyn unrhyw rwystrau wrth chwilio am waith a darparu cyngor wrth wneud cais am swyddi, wrth greu CV, neu wrth fynychu cyfweliad.
Training and Employment support from © Agoriad Cyf. All rights reserved. | Privacy notice