Rydyn ni’n deall beth sydd ei angen er mwyn eich cael i mewn i swyddi.


Os oes gennych chi ysbryd cadarnhaol ac uchelgais, gallwn weithio gyda chi er mwyn creu cyfleoedd go iawn, a rhoi cyfle ichi newid eich bywyd drwy fod yn rhan o fyd gwaith.  

Heb ymyrryd yn ormodol, bydd ein gwasanaethau cyfeillgar yn eich paratoi’n drylwyr ar gyfer ymuno â’r gweithlu.

Gallwn roi cefnogaeth ichi yn ystod eich cyfnod hyfforddi, a darparu cyrsiau i’ch addysgu a’ch datblygu, er mwyn ichi ddeall gweithle’r cyflogwr yn well.  Mae’r gwasanaethau yma’n rhai rydyn ni wedi arfer eu cynnig, ac fe wnawn hynny mewn modd cyfeillgar ac effeithiol, gan eu teilwrio i’ch anghenion penodol chi.

Gallwn ddangos ichi sut i gyflwyno’ch hunain i gyflogwyr.  Byddwn yn gofalu rhoi digon o arweiniad ichi bob cam o’r ffordd er mwyn creu hunanhyder ac ymwybyddiaeth all arwain at brofiad gwaith fydd yn ddymunol a defnyddiol ichi. Type your paragraph here.

Eich Cyflogaeth