Agoriad Cyf
Anabledd Dysgu Cymru
DFN Project Search
Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan
Elitesea
Learning Disability Wales

The "Engage to Change" project ended on 23rd May 2023 and provided employment support to 1,070 young people with a learning difficulty, learning disability and/or autism over a 7- year period​. The project is no longer accepting referrals.

The historic Project Website www.engagetochange.org.uk is continuing to present research  gathered from project data.


Below is a description of the project


Agoriad, along with a consortium of five other organisations, was awarded a £10m grant to boost the employment prospects of young people in Wales with a learning disability and/or learning difficulty, including autism.


The consortium, led by Learning Disability Wales, included ELITE supported employment agency Ltd who were the delivery partner in south and mid Wales, the international internship programme Project SEARCH, self-advocacy organisation All Wales People First, and Cardiff University. Agoriad is the delivery partner in north and mid Wales.


The five-year Engage to Change project, aimed to work with 800 employers across Wales and helped 1,070 young people with learning disability and/or autism to develop their employment skills through paid work placements lasting between 6-12 months.


The project was funded by The Big Lottery Fund's Getting Ahead 2 grant. Developed in partnership with Welsh Government, this is the largest awarded ever given by the Big lottery fund in Wales.


Funded by money that has been dormant in bank and building society accounts across the UK for 15 years or more it aimed to meet priorities for supporting children and young people.


Youth unemployment in Wales is an issue for all young people but those young people with a learning disability and/or autism, the routes into employment and the support that is available isn't always clear. The project allowed us to draw from previous good practice and clearly demonstrate what worked for these young people.


Validating that investing in person-centred, tailored training through Supported Employment programmes produces sustainable employment for individuals, establishing with employers the benefits of a diverse workforce and creates opportunities for future generations. Engage to Change challenged the disadvantages young people with a learning disability/difficulty including Autistic Spectrum Disorder face in securing employment on their journey towards long term independence.


Agoriad delivered activities across:

Gwynedd, Isle of Anglesey, Conwy, Denbighshire, Flintshire, Wrexham, north Powys and north Ceredigion.


The project worked with young people aged 16 to 25 years who wanted to work and were not currently in education, training or employment (NEET) or at risk of becoming NEET and had a learning disability, difficulty or autistic spectrum conditions.


Project activities included:

  • Specific vocational assessment
  • Vocational advice, guidance/counselling
  • Supported employment visits
  • Vocational/independence training
  • Supported work placements
  • Supported interviews/work trials
  • Long term sustained employment
  • Supported volunteering
  • Post-placement support


The Project also recruited, trained and supported a team of employer Champions, as well as participants and parents/carers who acted as project Ambassadors.


Our aim was that the legacy and quality of the project will influence policy makers and make a positive difference for young people with learning disability / difficulty and / or Autism in Wales and across the UK, by prioritising activities to change government policy and practice.


The Engage to Change project was delivered in partnership between Learning Disability Wales, Agoriad Cyf, All Wales People First, Cardiff University, Elite, and in collaboration with DFN Project Search. 

Cafodd Agoriad, ynghyd â chorsortiwm o bum sefydliad arall, grant o £10m i wella cyfleoedd gwaith ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru oedd ag anabledd neu anhawster dysgu, gan gynnwys awtistiaeth.

Anabledd Dysgu Cymru oedd yn arwain y consortiwm; roedd y grŵp hefyd yn cynnwys ELITE Ltd, sef asiantaeth cymorth cyflogadwyedd, oedd yn gweithredu fel partner a fyddai'n cyflwyno'r gwasanaeth yn ne a chanolbarth Cymru; hefyd, Project SEARCH - rhaglen swyddi preswyl rhyngwladol, Pobl yn Gyntaf Gymru Gyfan - sefydliad hunan-eiriolaeth, a Phrifysgol Caerdydd. Agoriad oedd y partner a oedd yn cyflwyno'r cynllun yng ngogledd a chanolbarth Cymru.

Dros gyfnod o bum mlynedd, bu'r prosiect Ymroi i Newid yn gweithio gydag 800 o gyflogwyr ar hyd a lled Cymru er mwyn helpu 1,000 o ieuenctid oedd ganddyn nhw anabledd dysgu neu/awtistiaeth. Y bwriad oedd datblygu eu sgiliau cyflogadwyedd drwy gyfrwng profiadau gwaith cyflogedig am gyfnodau o 6-12 mis.

Cafodd y prosiect ei ariannu drwy gyfrwng grant Getting Ahead 2 o Gronfa’r Loteri Fawr. Fe’i datblygwyd ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Dyma’r grant mwyaf oedd wedi’i roi gan y Loteri Fawr yng Nghymru erioed.

Daw’r arian o goffrau banc neu gymdeithas adeiladu oedd wedi bod ynghwsg am bymtheg mlynedd neu fwy, a’r amcan oedd rhoi blaenoriaeth i brosiectau oedd yn rhoi cefnogaeth i blant a phobl ieuanc.

Roedd diweithdra ymysg pobl ieuanc yng Nghymru yn broblem gyffredinol, ond i ieuenctid oedd yn dioddef o anabledd dysgu a/neu awtistiaeth, roedd y llwybrau tuag at waith yn fwy anodd, a’r gefnogaeth oedd ar gael yn llai amlwg fyth. Byddai'r prosiect hwn yn gallu manteisio ar gynlluniau oedd wedi llwyddo yn y gorffennol, ac yn dangos yn glir beth oedd yn gweithio i’r bobl ifanc hyn.

Cafodd ei brofi fod buddsoddi mewn hyfforddiant oedd wedi’i deilwrio ar gyfer personau penodol drwy gyfrwng rhaglenni Cymorth Cyflogadwyedd yn creu swyddi cynaliadwy ar gyfer unigolion. Roedd hefyd yn sefydlu’r egwyddor ymysg cyflogwyr fod manteision mewn cael gweithlu amrywiol, a chreu cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Bwriad Ymroi i Newid oedd herio’r anfanteision oedd yn wynebu pobl ifanc oedd ag anabledd neu anhawster dysgu gan gynnwys Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth wrth iddynt chwilio am waith ar eu siwrnai tuag at fod yn annibynnol yn y tymor hir.

Bu Agoriad yn gweithredu yn y mannau canlynol:

Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fflint Wrecsam, gogledd Powys a gogledd Ceredigion.

Bu'r prosiect yn gweithio gyda phobl ifanc oedd rhwng 16 a 25 oed oedd awyddus i weithio ond heb fod mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth (NEET), neu oedd yn debygol o ddod i’r categori hwnnw, ac oedd hefyd yn ddioddef o anabledd neu anhawster dysgu neu gyflwr yn y maes awtistiaeth.

Rhai o weithgareddau’r prosiect oedd:

Asesiad penodol o ogwydd galwediaethol Cyngor neu gyfarwyddyd gyrfa neu gwnsela Ymweliadau Cymorth Cyflogadwyedd Hyfforddiant gyrfa/annibyniaeth Profiadau gwaith gyda chefnogaeth Cyfweliadau/brofiad gwaith gyda chefnogaeth Cyflogaeth tymor hir estynedig Gwaith gwirfoddol gyda chefnogaeth Cefnogaeth ar ôl lleoli

Bu’r Prosiect hefyd yn recriwtio, hyfforddi a chefnogi tîm o gyflogwyr oedd yn Bencampwyr, yn ogystal â’r rhai oedd yn cymryd rhan, a rhieni neu ofalwyr, oedd yn gweithredu fel llysgenhadon y prosiect.



Yr amcan fydd sicrhau fod y gwaddol o’r prosiect, a’i ansawdd, yn cael dylanwad ar y sawl sy’n llunio polisïau’r dyfodol, gan wneud gwahaniaeth o ddifrif i bobl ifanc a chanddyn nhw anabledd neu anhawster dysgu a/neu awtistiaeth yng Nghymru ac ar draws Prydain. Gobeithiwn weld blaenoriaeth yn cael ei roi i weithgaredd fydd yn newid polisi llywodraeth a’i ymarfer.



www.engagetochange.org.uk/?lang=cy


Gweithredir gan bartneriaeth rhwng Anabledd Dysgu Cymru, Agoriad Cyf, Pobl yn Gyntaf Cymru Gyfan, Phrifysgol Caerdydd, Elite, ac mewn cydweithredu â DFN Project Search.

Agoriad Cyf
Cardiff University
DFN Project Search
Cardiff University
Elitesea
All Wales People First