Llysgennad Cymheiriaid Cyflogaeth â Chymorth

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl ag anableddau dysgu yng Ngwynedd ac Ynys Môn? Mae Agoriad yn chwilio am unigolyn hyblyg, brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â'n tîm fel Llysgennad Cymheiriaid Cyflogaeth â Chymorth.

Mae’r rôl gyffrous hon yn canolbwyntio ar gefnogi ein cyfranogwyr i gyflawni eu nodau a byw bywydau llawn, datblygu perthnasoedd â chyflogwyr lleol, rhanddeiliaid, a sefydliadau cymunedol i greu cyfleoedd cyflogaeth a hyrwyddo dealltwriaeth a chynhwysiant ar gyfer pobl ag anableddau dysgu yn y gweithle.

Manylion:

  • Lleoliad:                         Gwynedd a Môn, wedi'i leoli yn ein prif swyddfa ym Methesda
  • Oriau:                             hyd at 16 awr yr wythnos (mae rhannu swydd yn opsiwn)
  • Cyfradd Tâl:   Cyflog Byw
  • Rhaid bod gan ymgeiswyr anabledd dysg
  • Bydd y penodiad yn cynnwys cyfnod prawf ac adolygiad perfformiad

  • Dyddiad Cau:               04/12/24


Sut i wneud cais:

Dilynwch y dolenni isod i'r swydd ddisgrifiad a manyleb y person. Mae dogfennau hawdd eu darllen hefyd ar gael isod.

Anfonwch eich CV a llythyr yn amlinellu eich sgiliau a'ch profiad atom trwy e-bost neu'r post.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni:

• Ffôn: (01248) 361392
• E-bost: robyn@agoriad.org.uk

Mae Agoriad Cyf yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd a bod angen addasiadau arnoch yn ystod y broses recriwtio, rhowch wybod i ni yn eich cais neu cysylltwch â ni ymlaen llaw.

Swyddi Agoriad